HomeUK RulesEmploymentWorkingPAYENMW › Cyfraddau Presennol
Cyfraddau'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Mae cyfradd fesul awr yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol yn dibynnu ar eich oed ac os ydych chi'n brentis. Mae'r wybodaeth yn y canllaw hwn yn rhestru'r cyfraddau cyflog cyfredol y mae angen i gyflogwyr eu talu i'w staff a'u gweithwyr yng Nghymru.

Cyflog Byw Cenedlaethol

Rhaid i chi fod yn o leiaf:

  • Oed gadael ysgol er mwyn cael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol.
  • 23 oed i gael y Cyflog Byw Cenedlaethol – bydd yr isafswm cyflog yn berthnasol o hyd i weithwyr 22 oed ac iau.

Note: There is also a version of the National Minimum Wage rates available in English language.


Cyfraddau Presennol

Mae’r cyfraddau hyn ar gyfer y Cyflog Byw Cenedlaethol a’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Mae’r cyfraddau yn newid bob Ebrill.

BLWYDDN 23 A THROSODD 21 I 22 18 I 20 O DAN 18 PRENTIS
Ebrill 2022 £9.50 £9.18 £6.83 £4.81 £4.81

Mae cyfraddau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol yn newid bob mis Hydref. Mae cyfraddau’r Cyflog Byw Cenedlaethol yn newid bob mis Ebrill.


Prentis

Mae Prentis gyda’r hawl i dderbyn cyfradd prentis os ydynt yn naill ai:

  • Dan 19 oed.
  • 19 oed neu drosodd ac yn flwyddyn gyntaf eu prentisiaeth.

Enghraifft

Mae gan brentis 21 oed ym mlwyddyn gyntaf ei brentisiaeth hawl i gael y gyfradd isafswm fesul awr o £4.81.

Mae prentisiaid gyda’r hawl i gael yr isafswm cyflog ar gyfer eu hoed os ydynt:

  • Yn 19 oed neu drosodd.
  • Wedi cwblhau blwyddyn gyntaf eu prentisiaeth.

Enghraifft

Mae gan brentis 21 oed sydd wedi cwblhau blwyddyn gyntaf ei brentisiaeth hawl i gael cyfradd isafswm fesul awr o £9.18.

Note: The online minimum wage calculator allows workers and employers to check wage payments. You can also contact the Acas helpline if your NMW or National Living Wage is not getting paid correctly.


Related Help Guides


Cyfraddau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol a’r Cyflog Byw Cenedlaethol